Ofcom
Welsh Language Advisor - Cardiff
Job Location
UK, United Kingdom
Job Description
Welsh Language Advisor - Cardiff Closing Date: 28/06/2025 Group: Corporate Group Management Level: Associate Job Type: Fixed Term (Fixed Term) Job Description: Bydd y rôl hon yn cau am 00:01 ddydd Sadwrn 28 Mehefin ac felly rydym yn eich cynghori i ymgeisio erbyn hanner nos fan bellaf ar ddydd Gwener 27 Mehefin. Mae croeso i chi gysylltu â Penodi ar 07385 502078 am sgwrs anffurfiol i drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach sydd gennych ynglŷn â’r rôl, Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i Penodi ar helo@penodi.cymru . Gwybodaeth am Ofcom Ni yw rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU ac rydym yn gwneud gwaith hanfodol sy’n helpu i gadw pobl mewn cysylltiad ledled y DU ac sy’n siapio sut byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’n gilydd yn y dyfodol. Mae ein gwaith yn cynnwys popeth o ffonau a band eang i deledu, radio, y gwasanaeth post, a dyfeisiau di-wifr. Rydym hefyd yn ymgymryd â’r her o wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel. I’n helpu i gyflawni ein nod o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb, mae arnom angen pobl o bob cefndir, gyda sgiliau amrywiol ac wedi cael gwahanol brofiadau. Gwybodaeth am y tîm y byddwch chi’n rhan ohono Mae Ofcom yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod cyfathrebu\\\'n gweithio i bawb yng Nghymru. Rydym yn sicrhau bod buddiannau cyfathrebu unigryw pobl yng Nghymru yn cael eu cynnwys ym mholisi Ofcom a bod gwaith Ofcom yn cael ei ddeall yng Nghymru. Rydym yn cadw mewn cysylltiad â safbwyntiau a barn dinasyddion a defnyddwyr, y diwydiannau a reoleiddir a rhanddeiliaid yn fwy cyffredinol ledled Cymru. Rydym yn sicrhau bod profiad ac arbenigedd aelodau Pwyllgor Cynghori Ofcom, y Prif Fwrdd ac aelodau Panel Defnyddwyr Cynnwys a Chyfathrebu Cymru hefyd yn bwydo i’n gwaith. A lle bo\\\'n berthnasol, rydym yn falch o hyrwyddo a hwyluso\\\'r defnydd o\\\'r Gymraeg yn ein gwaith. Pwrpas a hyd a lled y rôl Mae ein Hymgynghorwyr Gymraeg yn gydweithwyr aml-sgil sy’n rhan annatod o\\\'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Cymraeg Ofcom. Maen nhw’n gweithio gyda chyd-weithwyr ar draws Ofcom a’n gwasanaeth cyfieithu allanol i sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac allbwn cyfathrebiadau o fewn cwmpas yn cael eu cyfieithu a’u bod ar gael yn Gymraeg ar sianeli Ofcom. Gall hyn amrywio o reoli’r prosiect cyhoeddi a phrawf ddarllen dogfennau mawr a chymhleth i gyfieithu darnau byr o destun i’w cyhoeddi ar y diwrnod ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan. Eich Prif Gyfrifoldebau Cyfieithu cyhoeddiadau testun byr o\\\'r Saesneg i\\\'r Gymraeg yn gywir, yn gyflym ac yn aml. Cyhoeddi cynnwys wedi’i gyfieithu i wefan Gymraeg Ofcom, rhoi prawf ar deithiau defnyddwyr a darparu sicrwydd ansawdd, pan fo angen. Cymeradwyo testun ar gyfer cynnwys cyfryngau cymdeithasol. Monitro a gweithredu ar alwadau i linell gymorth yr iaith Gymraeg a chynnal cofnodion cyfredol, pan fo angen. Cynghori, rheoli a gweinyddu\\\'r broses gyfieithu ar gyfer holl gyhoeddiadau Ofcom yn y Gymraeg o fewn amserlenni tynn. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i: Cynghori a chytuno ar ofynion cyfieithu ac amserlenni ar gyfer pob prosiect cyhoeddi gyda thîm perthnasol Ofcom a chyda\\\'n gwasanaeth cyfieithu allanol. Cydlynu a rheoli\\\'r broses o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer pob prosiect cyfieithu, gan gydweithio â chyd-weithwyr mewnol a\\\'r gwasanaeth cyfieithu allanol i ddilyn prosesau y cytunwyd arnynt ac i gyflawni o fewn y terfyn amser y cytunwyd arno. Rheoli nifer o brosiectau cyfieithu ar unrhyw un adeg, gan gadw grid cyfredol sy’n dangos yr hyn sydd i ddod, sydd ar y gweill a\\\'r hyn sydd wedi\\\'i gwblhau. Rheoli nifer o fersiynau o ddogfennau gyda\\\'r gwasanaeth cyfieithu allanol, gan sicrhau bod newidiadau brys neu funud olaf yn cael eu hymgorffori pan fo angen. Prawf ddarllen cyfieithiadau er cywirdeb. Gweithio gyda thimau a’r adran Gyllid i ddarparu rhagolygon cywir o gostau cyfieithu. Nodi tueddiadau a llwythi gwaith y dyfodol a chymryd camau priodol i wneud y defnydd gorau o\\\'r adnoddau sydd ar gael. Nodi problemau a chyfleoedd yn y broses gyfieithu a gweithio gydag eraill i gymryd camau priodol. Cadw cofnod o’r cyfieithiadau sydd wedi\\\'u cwblhau i\\\'w harchwilio a\\\'u hanfonebu. Cynorthwyo gwaith Ofcom a’i dîm yng Nghymru drwy ymgymryd â phrosiectau ychwanegol, yn ôl yr angen. Er enghraifft, paratoi sleidiau ar gyfer cyflwyniadau dwyieithog neu drefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus. Y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y bydd eu hangen arnoch i lwyddo Defnyddio sgiliau iaith: mae’n hanfodol eich bod yn defnyddio yn eich rôl bresennol eich sgiliau ysgrifenedig, llafar, prawf ddarllen, cyfieithu a golygu rhagorol yn Gymraeg. Cyhoeddi cynnwys: profiad o baratoi a phrawf ddarllen cynnwys yn Gymraeg i’w gyhoeddi ar wahanol lwyfannau ar gyflymder bob dydd. Er enghraifft cyhoeddiadau testun, tudalennau gwefan a chynnwys cyfryngau cymdeithasol. Rheoli rhanddeiliaid: profiad o reoli cyflenwyr allanol a chleientiaid mewnol yn gadarn mewn cysylltiad â nod cyffredin, gan gynnal perthynas gadarnhaol ar yr un pryd. Gweithredu Cynlluniau: gallu pennu a chyfleu blaenoriaethau a therfynau amser clir i chi eich hun ac i eraill, gan ddefnyddio adnoddau’n ddoeth i reoli nifer o brosiectau ar yr un pryd. Syniadau Arloesol: profiad o arloesi yn eich gwaith drwy syniadau creadigol a gwreiddiol sydd wedi gwella prosesau, polisïau neu wasanaethau. Cysoni gwaith: profiad o weithio’n effeithiol i ddarparu gwasanaeth i wahanol dimau, gan greu amgylchedd tîm onest a rhannu gwybodaeth ac adnoddau gwerthfawr. Croesawu newid: gallu ffynnu mewn amgylchedd lle nad oes dwy swydd yr un fath ac yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn hyblyg wrth wynebu newid. Mae cynhwysiad wrth galon popeth a wnawn. Mae gan Ofcom genhadaeth glir: sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Er mwyn gallu cyflawni hyn, rydym am i’n sefydliad adlewyrchu’r amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau, magwraeth a safbwyntiau sy’n bodoli ledled y DU. Ein nod yw recriwtio o’r gronfa ehangaf bosibl o ymgeiswyr – ni waeth beth yw eich rhywedd, eich ethnigrwydd, eich anabledd, eich cyfeiriadedd rhywiol na’ch cefndir cymdeithasol. Pan fydd swyddi\\\'n cael eu rhestru fel rhai llawn amser, rydym yn parhau i fod yn agored i lai o oriau, trefniadau rhan amser, rhannu swyddi a dewisiadau gweithio hyblyg eraill. O’r diwrnod cyntaf, rydym yn hyrwyddo trefniadau gweithio hyblyg i ddiwallu anghenion unigol. Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant – am ba reswm bynnag. Os ydych chi wedi cymryd amser i ffwrdd ac yn barod i ailymuno, edrychwn ymlaen at ddarllen eich cais. Mae ein prosesau recriwtio yn blaenoriaethu hygyrchedd a chynhwysiad. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat arall neu os oes gennych chi ddewisiadau penodol, cysylltwch â’n tîm recriwtio yn resourcing@ofcom.org.uk neu ffoniwch 0330 912 1378. A ninnau yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cynnig cyfweld unrhyw ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer ein rolau sy’n cael eu hysbysebu. Pan fyddwch yn gwneud cais, gallwch roi gwybod i ni os hoffech i’ch cais gael ei ystyried dan y cynllun hwn (a elwir weithiau’n ‘gynllun sicrhau cyfweliad’). Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun yma: https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/jobs/disability-confident-scheme Please note that this role will close at 00:01 on Saturday 28th June and therefore we advise getting your application by no later than midnight on Friday 27th June. For an informal chat to discuss any further questions or queries you may have regarding this role, please feel free to contact Penodi on 07385 502078. If you are interested in applying for this role, please send your CV and cover letter to Penodi at hello@penodi.cymru About Ofcom As the UK’s communications regulator, we’re delivering vital work that helps keep the UK connected and shapes the future of how we’ll stay connected with each other. Our work covers everything from phones and broadband, through to TV, radio, the postal service, and wireless devices. We’re also taking on the challenge of making the online world a safer place. And we need people of all backgrounds, skill sets, and experiences to help us achieve our goal of making communications work for everyone. About the team you’ll be part of Ofcom plays a vital role to make communications work for everyone in Wales. We ensure the unique communications interests of people in Wales are included in Ofcom’s policymaking and that Ofcom’s work is understood in Wales. We keep in touch with the views and opinions of citizens and consumers, the regulated industries and stakeholders more generally across Wales. We ensure the experience and expertise of Ofcom’s Advisory Committee, Main Board, Content and Communications Consumer Panel members for Wales also feed into our work. And, where relevant, we proudly promote and facilitate the use of the Welsh language in our work. The purpose and scope of the role Our Welsh Language Advisors are multi-skilled colleagues who are integral to the delivery of Ofcom’s Welsh language services. They work with colleagues across Ofcom and our external providers to ensure that all publications and communications output in scope are translated and made available in Welsh on Ofcom’s channels. This can range from managing the publication and proof-reading of large, complex documents to translating short pieces of text for on-the-day publication on our social media channels and website. Your Key Responsibilities Accurately, quickly & frequently translate short text publications from English to Welsh. Publish translated content to Ofcom’s Welsh language website, test user journeys and provide quality assurance, when needed. Approve text for social media content. Monitor and action calls to the Welsh Language helpline and maintain up to date records, when needed. To effectively advise on, manage & administer the translation process for all Ofcom publications in the Welsh language to tight deadlines. This will include, but not be limited to: Advise on and agree the translation requirements and timescales for each publication project with the relevant Ofcom team and with our external translation service. Coordinate and manage the end-to-end process for each translation project, collaborating with internal colleagues and the external translation service to follow agreed processes and to deliver to the agreed deadline. Manage multiple translation projects at any one time, maintaining an up-to-date grid showing what is pending, in progress and what has been completed. Manage multiple versions of documents with the external translation service, ensuring urgent or last minute changes are incorporated when needed. Proof read translations for accuracy. Work with teams and Finance to deliver accurate translation costs forecasts Identify future trends and workloads and take appropriate action to make the best use of the available resources. Identify issues and opportunities in the translation process and work with others to take appropriate action. Maintain a log of completed translations for auditing and invoicing. Support Ofcom’s work and its team in Wales by taking on additional projects, as and when needed. For example, preparing slides for bilingual presentations or organising simultaneous translation for public events. The skills, knowledge and experience you’ll need for success Utilising language skills: it is essential that you are using in your current role your excellent Welsh written, oral, proof reading, translation and editing skills. Content publishing: experienced in preparing and proof-reading content in Welsh for publication on different platforms at pace on a daily basis. For example, text publications, website pages and social media. Stakeholder management: have assertively managed both external suppliers and internal clients around a shared goal whilst maintaining positive relationships. Executing Plans: adept at setting and communicating clear priorities and deadlines for yourself and for others utilising resources wisely to manage multiple projects simultaneously. Trailblazing Ideas: have brought innovation to your work through creative and original ideas that have improved processes, policies, or services. Harmonising work: experience of working effectively to provide a service to different teams, creating an honest team environment and sharing valuable information and resources. Embracing change: can thrive in an environment where no two jobs are the same and remains positive and flexible in the face of change Inclusivity Statement Ofcom has a clear mission: to make communications work for everyone. To be able to deliver on this, we want our organisation to reflect the diversity of background, experience, upbringing and thought that exists across the UK. We aim to recruit from the widest pool of candidates possible – no matter your social background, ethnicity, sexual orientation, gender, or disability. Where positions are listed as full-time, we remain open to reduced hours, part-time arrangements, job shares, and other flexible working options. From day one, we champion flexible work arrangements to accommodate individual needs. We also warmly welcome applicants who are returning to the workforce after a break – for whatever reason. If you have taken time away and are ready to rejoin, we look forward to reviewing your application. Our recruitment processes prioritise accessibility and inclusivity. If you need adjustments, information in an alternative format, or prefer to apply in a different way, please contact us at resourcing@ofcom.org.uk or call 0330 912 1378. As a Disability Confident Leader, we offer interviews to disabled applicants who meet essential criteria for advertised roles. Learn more about this scheme here. https://careers.ofcom.org.uk/careers/how-we-hire/
Location: UK, GB
Posted Date: 6/15/2025
Location: UK, GB
Posted Date: 6/15/2025
Contact Information
Contact | Human Resources Ofcom |
---|